Alun LloydJAMESYn dawel yn Ysbyty Glangwili, ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr 5ed 2020 yn 97 mlwydd oed, Alun o Aweldeg, Llanarthne. Gŵr annwyl y diweddar Eira, tad tyner Ioan, Gethin a Llinos, tad-cu a hen dad-cu cariadus, tad-yng-nghyfraith hoffus a brawd annwyl. Angladd hollol breifat yn Amlosgfa Llanelli ddydd Mercher, Rhagfyr 23ain 2020 am 9.00y.b. Bydd yr angladd yn gadael ei gartref am 8.15y.b. ac mae croeso i ffrindiau i ddangos eu cefnogaeth. Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at Meddygfa Tywi trwy law Glanmor D Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 241626 / 01267 237100
Keep me informed of updates